Traciau a Llwybrau Rhannau Isaf Dyffryn Gwy

Gweithio gyda’n gilydd i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer Mynediad Hamdden yn Nyffryn Gwy, Sir Fynwy

Os hoffech chi weld y dudalen hon a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad Traciau a Llwybrau Gwy Isaf yn Saesneg, cliciwch yma.If you would like to view this page and take part in the Lower Wye Tracks and Trails consultation in English please click here

Mae Uned Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy yn gweithio ar strategaeth a chynllun gweithredu newydd, i helpu i roi’r profiad gorau i bawb sy’n mwynhau’r traciau a’r llwybrau yn rhan Sir Fynwy o AHNE Dyffryn Gwy. Nod y gwaith yw datblygu’r ffyrdd mwyaf ymarferol o gefnogi gofynion pob math o ddefnyddwyr, tra’n gwarchod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Fel rhan o’r fenter, rydyn ni’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid, trigolion lleol, defnyddwyr ac ymwelwyr â thraciau a llwybrau AHNE Dyffryn Gwy yn Sir Fynwy yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r strategaeth a’r cynllun gweithredu.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Gwener 6 Tachwedd 2023 i 12 Ionawr 2024.

Mae sawl ffordd o gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

  • Drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein – dyma’r dull sy’n cael ei argymell gan ei fod yn gyfle i roi sylwadau ar amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol i’r prosiect. Cliciwch yma.
  • Drwy e-bost – gellir e-bostio ymatebion at lowerwyevalley@tomorrowstourism.com
  • Drwy’ post – gellir anfon ymatebion ysgrifenedig at Consultation, PO Box 7030, Leamington Spa, CV31 9QY

Mae’r dogfennau canlynol yn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndir ac arweiniad. Cysylltwch â ni os oes eu hangen arnoch mewn fformat gwahanol.

Menu